Llun drwy garedigrwydd Roger Clive-Powell
Llun o hen gapel Llwynrhydowen ger Pontsian yng Ngheredigion (1733). Cafodd
y gynulleidfa ei throi allan o'r capel gan y perchennog tir lleol wedi
etholiad 1868. Mae Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru yn adnewyddu'r
adeilad.
Photograph of the old chapel at Llwynrhydowen near Pontsian in
Ceredigion (1733) from which the congregation was ejected by the local
landowner after the 1868 Election . Now being restored by the Welsh
Religious Buildings Trust.
Undodiaid Cymru
yng Nghymru. Mae 13 o'r cynulleidfaoedd hynny yng
Ngheredigion rhwng Llandysul a Llanbedr Pont Steffan a thuag at
Aberaeron. Cyfeirir ato fel y Smotyn Du. Mae saith cynulleidfa yn y De
Ddwyrain - y Wig ym Mro Morgannwg, Notais, Trebanos, Aberdar, Cefncoed
yn ogystal a Chaerdydd ac Abertawe. Mae cynulleidfa yng Nghaerfyrddin a
chynulleidfa newydd ei sefydlu ym Mangor - yr unig un mor belled yng
ngogledd Cymru.
Cyfadran Undodaidd
Mae pob un o'r
cynulleidfaoedd hyn yn perthyn i Gymanfa Gyffredinol yr Undodiaid
gyda'i phencadlys yn Llundain ond fe drefnir y gwaith yng
Nghymru gan y Gyfadran Undodaidd. Mae'r Gyfadran Undodaidd yn
gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y Gymanfa Gyffredinol a'r
cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn trefnu gwahanol agweddau enwadol fel
cyhoeddusrwydd, llyfrau a phamphledi, gwaith ieuenctid, cynadleddau,y
weinidogaeth yn ogystal a bod yn yn ddolen gyswllt rhwng dwy
Gymdeithas, un ym Morgannwg a'r Gymdeithas Gymraeg yng
Ngeredigion.